top of page

Welcome to Ffrind i Mi/Friend of Mine

Screenshot 2021-06-04 at 17.00.00.png

Mae pawb  ar ryw adeg yn ystod eu bywyd, wedi teimlo’n unig, bregus neu’n dymuno bod ganddynt fwy o gwmni. Gall unigrwydd neu deimlo’n unig effeithio ar unrhyw un ac unrhyw oed ar unrhyw adeg. Er enghraifft, ar ôl colli anwylyd,  gadael y lluoedd arfog, ymddeol, neu symud i ffwrdd. Gwyliwch ein ffilm i glywed yr hyn a ddywedodd pobl wrthym.

 

Mae pobl yn ymdopi â digwyddiadau bywyd mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai pobl yn teimlo bod mynd allan a threulio amser yng nghwmni cyfeillion yn help mawr. I eraill, mae cael rhywun i ymweld â hwy yn eu cartref yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Ond weithiau, efallai na fydd pobl yn hoffi gofyn, neu ddim yn gwybod i bwy i ofyn am gefnogaeth neu gyngor. Mae gwrando ar storïau pobl eraill wedi ein helpu o ddifri i ddeall yn well beth sydd angen i ni ei wneud i rhoi cefnogaeth gwell i bobl. 

 

Wedi'i ariannu drwy Gynllun Cymru Technoleg Iechyd a 1,000 o Fywydau, Mae Ffrind i mi yn fenter newydd y mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a’i bartneriaid yn ei datblygu i geisio sicrhau bod unrhyw un sy’n teimlo’n unig neu ar eu pen eu hunain, yn derbyn cymorth i ailgysylltu â’u cymunedau. Gan weithio gyda Chysylltwyr Cymunedol a gwasanaethau cyfeillio gwirfoddol sydd eisoes yn bodoli, rydym yn anelu i recriwtio cymaint o wirfoddolwyr ag sy'n bosibl i gefnogi'r rhai sy'n unig ac / neu'n ynysig. Rydym yn gobeithio dod â phobl a gwirfoddolwyr sy'n rhannu'r un diddordebau e.e. garddio, gwylio chwaraeon, cerdded cŵn ac ati, at ei gilydd. Os hoffech ddod yn wirfoddolwr a rhoi help llaw i ni drechu unigrwydd ac unigedd, neu os hoffech fwy o wybodaeth am Ffrind i mi, cysylltwch â ni 

 

Os hoffech siarad â Connector Cymunedol, ewch i tudalennau 'bwrdeistrefi

  • X
High Fives

STORÏAU POBL

"Befriending schemes are hugely important to reduce loneliness and isolation amongst older people.  Befriending services, usually undertaken by volunteers, have the aim of alleviating social isolation, as well as preventing or reducing loneliness and depression". - Older People's Commissioner for Wales.

This page contain's people stories.  Individual's who spoke to us have told us their lived experience of loneliness and isolation at some point in their lives.  There are also short films from others with an interest in this growing issue.  Please click on the photographs below to listen to what they have said, to find out what their views are on the benefits of befriending, and what we may need to do as society to reconnect people with their communities. 

Please click the image to expand description. 

bottom of page